Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.6.13

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN


Yn ôl yr arfer ers blynyddoedd bellach mae Cylchoedd Cinio Cymraeg Tybïe a Rhydaman yn cynnal eu cinio ar-y-cyd ym mis Ebrill. Eleni tro Tybïe oedd i wahodd Rhydaman i’r Clwb Golff yn Glynhir, Nos Fercher, Ebrill 10fed. Cafwyd noson hwylus dros ben gyda bron i drugain yn bresennol. Llywyddwyd gan Ken Maddocks, Llywydd Cylch Cinio Tybïe ac ef a groesawodd aelodau Rhydaman i’w plith.
            Y prif westai oedd Lyn Richards, cyn-ddarlithydd ym Mhibirlwyd. Brodor o’r Myddfai yw Mr. Richards ac ar hyn o bryd yn ffermio yn yr ardal hudolus hon. Trwy gyfrwng lluniau cafwyd ganddo beth o hanes Rhiwallon a’r ferch o Llyn-y-fan ac hefyd hanes a rhai o feddyginiaethau Meddygon Myddfai. Noson arbennig gyda lluniau gogoneddus o ardal Myddfai a’r cylch.
            Diolchwyd ar noson oer o Ebrill am araith a wnaeth wresogi ein calon gan Dafydd Wyn, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman.
            Fe fydd y ddau Gylch yn ciniawa y flwyddyn nesaf yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Ebrill 3ydd, 2014

No comments:

Help / Cymorth