Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

12.6.13

Halen y Ddaear - Mrs Olwen Richards


Ar nos Fercher y 15fed o Fai, cynhaliodd Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch ginio yn yr Hydd Gwyn, Llandeilo fel Parti Penblwydd 90 oed i Mrs Olwen  Richards, cyfeilydd y côr am dros hanner canrif.
Cyn dechrau ar y cinio fe ddaeth Mr Alwyn Humphreys gyda chriw teledu’r rhaglen ‘Prynhawn Da’ i gyflwyno plat “Halen y Ddaear” a tisw hardd o flodau iddi. Mae’r anrhydedd hon yn cael ei chyflwyno i unigolion sydd wedi rhoi oriau o’i profiadau medrus a’i hamser gwerthfawr i wahanol gymdeithasau yn y gymuned. Roedd y cyfan yn hollol sioc iddi, ond fel mae pawb sy’n ei hadnabod yn gwybod mae hi’n dderbynnydd teilwng iawn o’r rhodd.
 
Yn dilyn un syrpreis derbyniodd Mrs Richards wrth Mrs Indeg Thomas ar ran y côr, ‘Albwm Arbennig’ yn cynnwys lluniau wedi’i harwyddo gan yr artistiaid y bu hi’n cyfeilio iddynt yng ngyngherddau’r côr dros y blynddoedd, nifer ohonynt yn cynnwys negeseuon personol iddi.
Noson i’w chofio gan bawb oedd yn bresennol ac yn enwedig i Mrs Richards.
Hoffai swyddogion Glo Mân hefyd ddiolch i Mrs Richards am ei chyfraniad i’n papur bro, Glo Mân ar hyd y blynyddoedd a dymuno penblwydd hapus a phob bendith i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth