Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

16.6.13

Ymweliadau ysgol Gwaun Cae Gurwen

Ddydd Llun, Ebrill 29ain aeth yr Adran Iau ar daith i Gaerdydd. Treuliodd Adran 3 a 4 ddiwrnod yn Sain Ffagan wrth iddynt astudio amryw o gartrefi ac adeiladai fel eu gwaith thema’r tymor. Bu llawer o waith ymchwilio a dysgu am ffeithiau hanesyddol.
Ar ôl gadael adran 3 a 4 aeth plant 5 a 6 i’r ddinas lle oedd tywysydd Castell Caerdydd yn barod ar eu cyfer. Thema’r adran yw Cestyll a chafodd y plant flas ar y gwaith dosbarth. Ar ôl yr ymweliad, teithodd y plant i Gastell Caerffili i ddysgu am ei hanes a ffeithiau diddorol. Cafwyd diwrnod i’r brenin
!

No comments:

Help / Cymorth