Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.5.13

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN

O’r chwith i’r dde: Elfryn Thomas (Ysgrifennydd), Dafydd Wyn (Llywydd), Delme Bowen a Pamela (Prif Westeion), Hefin Williams (Trysorydd)
 
Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mawrth 7fed dan lywyddiaeth Dafydd Wyn, Glanaman. Ef a groesawodd yr aelodau, gwragedd a ffrindiau a oedd wedi ymgynnull ar yr achlysur hapus hwn. Bu yn enau hefyd i groesawu yn ôl Arfon Williams, Y Betws ar ôl llawer mis o absennoldeb oherwydd afiechyd ac fe ddymunodd adferiad iechyd llwyr a buan iddo ynghyd ag i Hywel Davies, Tom Mainwaring, Brian Pearce a Trefor Evans sydd wedi cael triniaethau yn y gwahanol ysbytai yn ddiweddar.

 Yr Athro Emeritws Delme Bowen, Cyn-Arglwydd Faer Dinas Caerdydd a brodor o Lanedi ac un o gyn-ddisgyblion disglair Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman oedd ein prif westai. Atgoffodd ni o eiriau Dewi Sant – gwnewch y pethau bychain – ac aeth â ni i’w faes ymchwil sef Geneteg a’r Celloedd. Dywedodd mai’r celloedd oedd yr organau lleiaf yn ein corff ond bod eu heffaith yn fawr. Mae’n rhaid i’r celloedd farw fel y gellir creu rhai newydd er mwyn i ni gael byw. Gwraidd canser yn y corff yw’r ffaith bod rhai o’r celloedd yn gwrthod marw ac o ganlyniad mae’n rhaid cael ‘chemotherapy’ neu ‘radiotherapy’ i’w lladd. Dywedodd bod datblygiadau cyffrous ar y gweill ac yn awr fe arbrofir gyda ‘myrr’. Fe’i fewnforir o Somalia ac y mae ganddo dros dri chant o rinweddau gan gynnwys y rinwedd o annog y celloedd diffygiol hyn i hunan-ladd ac felly yn llawer mwy effeithiol na’r triniaethau presennol gan nad ydyw yn lladd unrhyw gell iach.

 
Diolchwyd am anerchiad safonol ac addysgiadol y byddai Dewi Sant yn falch ohono gan Mel Morgan, Brynaman.

No comments:

Help / Cymorth