Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.7.13

90 oed!


Dymuniadau gorau i Mr.David Davies, Awelfryn, Stryd y Capel oedd yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed ar Fai 4ydd. Daw o deulu adnabyddus yn y pentref ac mae wedi byw yn yr un tŷ gydol ei oes. Yno y cafodd gwmni aelodau’r teulu ynghyd â rhai cymdogion a ffrindiau  ar ddiwrnod ei benblwydd.                                                                                                                                Dechreuodd  ei yrfa yn  gweithio yn Siop Herbert (Hewl Stesion), cyn symud i Siop Ddillad Dynion yn Ystalyfera, wedyn Co-op Pontardawe, cyn dychwelyd i ‘r Co-op ym Mrynaman.  Erbyn hynny roedd wedi hen  arbenigo ym maes dillad dynion. Mae’n fwy adnabyddus i drigolion Brynaman fel Davey’r Co-op, gan iddo dreulio cyfnod maith yno yn gweithio  yn y “Gentlemen’s Outfitters”!

No comments:

Help / Cymorth