Nos Wener,
Mai 10fed cynhaliwyd Cinio Blynyddol Cangen
y Gwter Fawr yng Nghanolfan y
Mynydd Du, ac unwaith eto, cawsom gwmni
aelodau Cangen Gwaun Gors. Cafwyd pryd o
fwyd blasus tu hwnt, yn cael ei weini yn serchus iawn gan staff y
ganolfan.
Llywyddwyd y noson gan Buddug Williams, Llywydd cangen Y Gwter Fawr a
hi gyflwynodd ein gwestai am y noso,
- Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr,
sef Gill Griffiths. Yn ei hanerchiad, soniodd am 3 pheth mae am ganolbwyntio
arnynt yn ystod ei Llywyddiaeth – sef
Drama, Dysgwyr a Daioni, gan gyfeirio at rôl yr aelodau ym mhob un o’r rhain.
Cyfeiriodd yn arbennig at y Daioni sy’n dod o’r ymdrech glodwiw sy’n digwydd drwy’r wlad wrth gasglu bagiau –
dros 6,000 wedi eu casglu hyd yn hyn – a phob un yn cael ei ddefnyddio i godi
arian i helpu merched mewn rhai o wledydd y Trydydd Byd mewn cydweithrediad â
Chymorth Cristnogol. Roedd Gill ei hun wedi cael cyfle yn ddiweddar i ymweld ag
Ethiopia yng nghwmni un o weithwyr Cymorth Cristnogol, ac roedd y daith wedi
cael effaith fawr arni- daeth hynny’n amlwg yn y modd diffuant y cyflwynodd hi rai o’r profiadau i ni .
Diolchwyd i Gill
am neges ddidwyll gan Lywydd Cangen Gwaun Gors, sef Bethan Williams.
No comments:
Post a Comment