Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.7.13

Henoed Rhydaman


Swyddogion y Clwb gyda rhai aelodau o'r pwyllgor - Arnallt James, Anita Joens, Gwyn Llewelyn, Betty Williams, Olwen Williams a Nancy Jones.
Mae'r Clwb yn mynd o nerth I nerth ac yn ddiweddar daeth Ysgol Parcyrhun i ymweld a’r gymedithas. Cafwyd amryw o eitemau gan y plant, gan gynnwys unawdau ac adroddiadau a chaneuon yn  y Gymraeg a’r Saesneg gan Gôr yr ysgol. Roedd yn brynhawn ardderchog yng nghwnmni’r plant a diolchodd Mrs Anita Jones, y cadeirydd, iddynt hwythau a’r athrawon oedd wedi eu hyffroddi a dymunodd pawb pob llwyddiant iddynt yn Eisteddfod yr urdd yn Sir Benfro.
hefyd death Mr Edwyn Williams, Capel Hendre I roi cwis gwahanol i'r aelodau.  Dangosodd Edwyn amryw o luniau o’r ardal o hen Bont Caerfyrddin i Gastell Dinefwr ac ardaloedd eraill o gymru, gan gynnwys yr hen gapel Bach Soar y Mynydd. Hefyd roedd pawb wrth eu boddau yn ceisio dyfalu  pwy neu beth oedd yn cael ei ddangos. Wrth iddo roi lluniau o enwogion a gwahannol eitemau fel hen fangl ar y sgrin fawr.

Cofiwch bod y clwb yn cyfarfod yn Neuadd y Pensiynnwyr pob dydd Mercher am 1.30 ac mae croeso i bawb.

No comments:

Help / Cymorth