Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.7.13

Taith Gerdded Carreg Cennen


Bydd nifer o drigolion y Cwm ag atgofion melys o'r hen draddodiad o gerdded i Gastell Carreg Cennen ac yn ôl dros benwythnos y Sulgwyn yn flynyddol. Yn anffodus, mae hyn draddodiad sydd wedi hen ddiflannu ers hanner can mlynedd neu mwy - tan nawr.  Fel adroddwyd mewn o’r blaen yn Clecs, mae grŵp cerdded newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghwmaman - Crwydrwyr y Cwm - gyda'r bwriad o annog pobl leol i fanteisio ar y cyfleoedd gwych sydd ar gael i gerdded o amgylch Cwm Aman ac i sgwrsio yn Gymraeg. Mae ein teithiau cerdded diweddar wedi mynd â ni ar hyd Mynydd Betws, Cwm Pedol ar y Mynydd Du a'r llwybr cerdded newydd ar hyd yr afon sydd bellach yn ymestyn o Bantyffynnon i Frynaman.

Ond roedd mae ein taith gerdded diweddaraf, ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin, yn mynd â ni i Garreg Cennen. Beth oedd yn anghyffredin am y daith gerdded hon oedd i ni ddechrau o dri lleoliad gwahanol. Roedd y rhai sy'n byw yn Rhydaman a thu hwnt yn dechrau o faes parcio'r Co-op, roedd grŵp Cwmaman yn cychwyn o Faes Parcio Glanaman a pobl Brynaman a phen ucha’r Cwm yn cychwyn o Faes Parcio Canolfan Mynydd Du. Gyda threfniant milwrol cychwynodd y tri grŵp am 10 o’r gloch gyda’r bwriad o gwrdd mewn lleoliad penodol ar y Mynydd Du cyn cerdded gyda'n gilydd tuag at y castell.
Ar ol cyrraedd ein cyrchfan roedd  dewis o dalu i ymweld â'r castell ei hun neu i gerdded i lawr y rhiw i bentref Trap a'r Cennen Arms lle roedd Cawl yn cael ei gyflwyno a chyfle i fwynhau diod gydag adloniant oddi wrth gerddorion gwerin lleol (o fri rhyngwladol). Trwy drefniant gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, roedd bws yn gadael y dafarn am 5.00pm i fynd a cherddwyr yn ôl i’r tri man cychwyn

No comments:

Help / Cymorth