Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.8.13

Ysgol Brynaman



Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r clwb eco wedi rhoi gweddnewidiad llwyr i dir yr ysgol ac yn bennaf i’r gerddi.  Er mwyn ennill statws Ysgolion Eco am y drydedd tro, bu’n rhaid i’r clwb eco, yn ogystal â phlant o bob blwyddyn gydweithio i newid gerddi’r ysgol.  Plannwyd bob math o berlysiau, hadau a phlanhigion ac fe ddysgwyd llu o wybodaeth am gylch bywyd, pwysigrwydd a rhannau’r planhigion.  Ceir gwahanol thema o fewn pob llain sy’n amrywio o’r oes Fictoria, yr Ail Ryfel Byd, y Tuduriaid a’r Rhufeiniaid.  Penderfynwyd plannu llysiau yn nhŷ gwydr yr ysgol er mwyn eu rhoi i staff y gegin i ddefnyddio ym mwydydd y plant.  Bu’r holl broses yn llwyddiannus ac fe dderbyniwyd yr ysgol y drydedd faner werdd.  Ar ôl ennill statws y faner werdd am y drydedd tro, mae’r clwb eco yn edrych ymlaen am y wobr platinwm nesaf mewn dwy flynedd.

No comments:

Help / Cymorth