Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.11.13

Ffon Hoci Aur


Llongyfarchiadau i mia Owen sydd y person ifancaf i’w gael ei dewis i chwarae i dim uwchradd Ysgolion Sir Gaerfyrddin. Mia yw’r disgybl cyntaf o flwyddyn 7 i chwarae dros y sir, fel arfer mae angen bod yn o leiaf blwydydn 8.

Mae Mia wedi chwarae dwy waith dros y sir a sgorio ym mhob gem. Yng nghystadleuaeth  sirol y flwyddyn diwethaf  roedd Mia yn chwarae i Ysgol Maes yr Yrfa a sgoriodd 15 gol. Daeth yr ysgol yn ail yn y twrnament.

Yn y llun gwelir Mia yn derbyn y Ffon Hoci Aur am y chwaraewr gorau yn y twrnament gan Rae Ellis, sy’n aleod o dim hoci  Rhyngwladol Cymru.

Mae Mia bellach ym mlwydydn 8 yn Ysgol maes y Gwendraeth ac yn chwarae hoc i dimau hoci dan 13 a 15 Teigrod Tywi.

Mae’n ymddangos bod gan mia ddyfodol disglair ym maes hoci a dymunwn pob llwyddiant iddi.

No comments:

Help / Cymorth