Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.1.14

CEFNOGI UNED GOFAL Y FRON, YSBYTY LLANELLI


Mrs Olwen Davies yn cyflwyno siec o £1,500 i Mr Holt, prif arbenigwr

Adran Gofal y Fron, Ysbyty Llanelli
 

Mynegodd Mrs Olwen Davies, Heol Penygarn pan y dathlu eu phenblwydd yn ddiweddar yn 70 oed yng nghlwb Rygbi Tycroes nad oedd am unrhyw anrhegion ac mae gwell ganddi fyddai gyfraniadau ac elw raffl i’w gyflwyno i Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Llanelli.

 Sicrhaodd y bwffe arbennig a’r adloniant a baratowyd bod y noson nid yn unig yn lwyddiant ond hefyd yn fwynhad i’r gynulleidfa fawr a ymgynullodd yn Ystafell Gelli’r Clwb Rygbi. Talodd y cadeirydd, Mr Meirion Powell, deyrnged i Olwen a cyflwyno iddi gris y clwb a’i henw a’i hoedran ar y cefn. Cododd y gynulleidfa ar eu traed i gymeradwyo gwaith enfawr y mae’r ddynes arbennig hon wedi ei wneud i’r clwb.

Codwyd y swm o £1,500 ac yn y llun fe welir Olwen yn cyflwyno’r siec i Mr Holt, pennaeth Adran Gofal y Fron  Ysbyty Llanelli.

Dymuna Olwen ddiolch i bawb am eu rhoddion hael ac hefyd i’r chwiorydd am baratoi’r bwffe.

No comments:

Help / Cymorth