Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

23.1.14

‘UNO’

Mr Morgan Lloyd (Alaw Llwyd)
Braf oedd clywed y dôn ‘UNO’ (United Nations Organisation) yn cael eu chanu nos Sul y Cadoediad yn y rhaglen ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’. Cyplysu’r y dôn hon gydag emyn yr heddychwr mawr, Llywelyn C. Huws, cyn-weinidog Carmel, Gwaun-cae-gurwen, ‘Dragwyddol Dduw sy’n dad holl deulu’r llawr’. Awdur y dôn yw Morgan Lloyd, Tycroes a anwyd ym Maes-y-Fedwen yn un o ddeg o blant i Mr a Mrs William Lloyd. Daeth o deulu cerddorol ac roedd pob un o’r plant yn medru chwarae gwahanol offerynau.

Arbenigwr ar y piano a’r organ oedd Morgan. Cafodd ei hyfforddi gan John Edwards, Llanelli ac enillodd iddo ei hun radd A.T.C.L. Pan yn ddeuddeg oed roedd yn chwarae’r organ harmoniwm a oedd ym Moreia bryd hynny a bu yn organydd yr eglwys am 58 mlynedd o 1902 tan 1960.  Bu yn gyfeilydd i Barti Meibion Tycroes a dysgodd rhai cannoedd o blant i chwarae’r piano ynghyd ag hyfforddiant lleisiol.

Cyfansoddodd lawer o donau-emyn ac enillodd cystadleuaeth Detholiad Cymanfaoedd Canu yr Annibynwyr. Y dôn ‘UNO’ yw’r unig dôn sydd ganddo yng ‘Nghaneuon Ffydd’ a’r ‘Caniedydd’  blaenorol ond yng ‘Nghaniedydd yr Ifanc’ fe ymddengys y dôn ‘Côr-y-wig’ o’i waith i eiriau Dyfnallt, ‘Mi wn fod Iesu’n cofio, amdanaf nos a dydd’. Fe’i urddwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Aberpennar 1946. Fe’i adnabyddid yn yr Orsedd fel ‘Alaw Llwyd’.

Roedd Morgan Lloyd yn uchel ei barch yn Nhycroes ac fe welwyd hyn yn amlwg ddydd ei angladd ym mis Tachwedd 1967 pryd y canwyd y dôn ‘UNO’ er cof amdano. Gorwedd ei weddillion ym mynwent Moreia, Tycroes.

 

 

No comments:

Help / Cymorth