Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.2.14

Priodas Aur

Llongyfarchiadau mawr i Marian a Clifford Morgan, Heol James Griffiths, Pontaman, Rhydaman ar ddathlu eu Penblwydd Priodas Aur ar 9fed o Dachwedd eleni.
Treuliodd y ddau y penblwydd priodas arbennig yn Llundain, lle dathlon nhw eu mis mêl hanner can mlynedd ynghynt.
Mae Marian wedi bod yn dosbarthu Glo Mâners 30 o flynyddoedd ac mae pawb sydd ynghlwm â’n papur bro yn anfon ein cyfarchion ninnau i’r pâr.

No comments:

Help / Cymorth