O dan
gyfarwyddyd artistig Arwel Gruffydd mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi
llwyfannu cynyrchiadau sy’n gwthio ffiniau dramatig, gan lwyddo i greu
trafodaeth, edmygedd a chynnwrf ym myd y ddrama Gymraeg. “Pridd” gan Aled Jones
Williams ydy’r ddrama ddiweddaraf i deithio theatrau Cymru, ac yn wir mae hi’n
ddrama gynhyrfus, sy’n sbarduno trafodaeth gydag actio a chyfarwyddo sy’n llwyr
haeddu edmygedd y gynulleidfa.
Wrth gerdded i mewn i’r gofod
perfformio yn Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin roedd y naws oeraidd a grewyd gan y
goleuo glas yn deimlad anghyfforddus iawn, ac o ystyried mai drama am glown ydy
“Pridd” roeddwn i’n nerfus iawn o ymddangosiad yr unig gymeriad o fewn y
ddrama, Handi Al. Pan bylodd y golau a
dechreuodd y gerddoriaeth iasol doedd dim cysur i’w gael o guddio yn nhywyllwch
y gynulleidfa a phan gododd golau gwan arnom cawsom ninnau’r gynulleidfa ein
cynnwys fel cyfranogwyr yn y ddrama. Dwi ddim yn un sy’n hoffi “audience
participation” ond roedd yr elfen o ddefnyddio’r gynulleidfa bron fel propiau
yn ychwanegu tensiwn a theimlad anesmwyth i haenau seicolegol y ddrama.
Cyfarwyddwyd y ddrama gan Sara
Lloyd, a rhaid llongyfarch ei chreadigrwydd a’i pharodrwydd i fynd yn erbyn
cyfarwyddyd confensyniol sydd i’w weld yn y rhan fwyaf o ddramau un cymeriad.
Roedd y cyfuniad o driciau clown, meim a’r defnydd hollol unigryw o falwniau yn
anhygoel ac yn creu darlun byw o stad meddwl Handi Al; gyda’r dirywiad ym
mrwdfrydedd ac elfen gomedi ei gymeriad wrth i’r ddrama ddatblygu yn arbennig o
effeithiol.
Wrth
ystyried yr actio a’r clownio, nid tasg hawdd ydy cynnal cymeriad a deialog mor
gyflym a chymleth am gymaint o amser heb adael y llwyfan. Llwyddodd Owen Arwyn
i gynnal a chreu cymeriad dwys ac aml ochrog anhygoel o ddiddorol drwy gydol y
perfformiad, heb golli ffocws ar ddatblygiad ei gymeriad unwaith. Teimlaf fod
Owen Arwyn wedi gwneud un o berfformiadau gorau ei yrfa fel “Handi Al”; ac am
yr awr honno yn gwylio’r perfformiad yn Y Llwyfan nid Owen Arwyn roeddwn i’n ei
weld, ond Handi Al a’i holl broblemau a’i ddyheuadau yn fyw o flaen fy llygaid.
Mae Aled Jones Williams yn
ddramodydd sy’n hawdd i’w gymharu â ‘Marmite’, gyda sawl drama a thema amlwg yn
aml yn creu trafodaeth ddadleuol. Roedd y cyfeiriadau crefyddol o fewn
strwythur y ddrama braidd yn rhy ddadleuol i mi a dwi’n sicr y bydd yr elfen
yma yn creu cynnwrf mewn sawl cynulleidfa. Ond, rhaid cyfaddef i mi fwynhau’r
ddrama fel cyfanwaith ac roedd y diweddglo yn uchafbwynt dramatig a dirdynnol
iawn gyda’r actio a’r effeithiau technegol yn cyd-weithio i greu perfformiad
hollol wefreiddiol. Unwaith eto, mae’r Theatr Genedlaethol wedi llwyddo i greu
cynhyrchiad hollol wych sy’n werth ei weld.
Dafydd Llyr
No comments:
Post a Comment