![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEi_-SSMlgHJB98drlghKjvt07h78eb6oWBlRqmNZY8NbYk-qVlEdCwMl8zDi7GsSf1NSPyoGpGjAzhag52Xj6djfI-_v9lL-U2ZMyocEU3yYecVkzwO8eRdN-RohyQsGmoGilL22UqvSwI/s400/Untitled-1+copy.jpg)
Cofiwch am Ddydd Santes Dwynwen ar Ionawr 25ain. Santes Dwynwen yw Nawdd Sant cariadon Cymru a Ionawr 25ain yw’r diwrnod pan mae cariadon Cymru yn anfon cardiau at ei gilydd. Dyma un fersiwn o’i hanes.
Merch y brenin Brychan, oedd yn teyrnasu yn ystod y 5ed ganrif, oedd Dwynwen ac roedd yn ferch hardd iawn, yn grefyddol ac yn bur. Syrthiodd gwr o’r enw Maelon mewn cariad â hi ac roedd am ei phriodi. Er y dywedir bod Dwynwen yn ei garu, gwrthododd ei briodi achos roedd am fod yn lleian. Cymerodd ddiod hud a’i harbedodd o sylw Maelon ac fe drodd ef yn ddarn o iâ. Roedd Dwynwen yn gwybod fod Maelon yn ei charu, a gweddiodd y byddai ef yn cael ei droi’n ôl yn fyw.
T r o d d Dwynwen yn lleian ac aeth i fyw ar ynys Llanddwyn.
No comments:
Post a Comment