![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEgkVN1UjXgIoCUrIHMTZF9KEORD4jpVuff59Yo5iw8oWgMO2kddNWUfn9g4-fHNqXCicqwTBwuEATpNWG7K-NNX43d-JMCnnxI4KHDAcBrpYIhyphenhyphenTfS35cVqbfpko5Bjr1a4K_kM0O4bzVw/s400/Untitled-1+copy.jpg)
Cafwyd bore llawn hwyl Ddydd Sadwrn Tachwedd 24ain yn Neuadd Pensiynwyr Rhydaman pan gynhaliwyd Miri Nadolig y Fenter. Daeth Rosfa i ddiddanu’r plant gyda sioe hud a lledrith nadoligaidd, roedd Superted a Norman Preis yno i ymuno yn yr hwyl hefyd! Daeth nifer o gwmnïau lleol â stondin i hybu eu cynnyrch a bu staff y Fenter yn brysur yn paentio wynebau plant yr ardal!
Cafwyd ymweliad arbennig iawn gan Siôn Corn gyda phob plentyn yn derbyn anrheg. Bu’n fore llwyddiannus iawn gyda dros 150 o bobl wedi dod i fwynhau’r miri.
Cafwyd ymweliad arbennig iawn gan Siôn Corn gyda phob plentyn yn derbyn anrheg. Bu’n fore llwyddiannus iawn gyda dros 150 o bobl wedi dod i fwynhau’r miri.
No comments:
Post a Comment