Nos Fawrth, 1 Gorffennaf daeth rhaglen Manylu, prif raglen materion cyfoes Radio Cymru i Rydaman . Dewi Llwyd, y newyddiadurwr a chyflwynydd profiadol Pawb a'i Farn a Newyddion oedd yn llywio'r drafodaeth ac yn herio'r panel. Ar y panel yn Rhydaman oedd Alun Wyn Bevan, Carwyn Jones AC, Ron Jones a Catherine Rees. Daeth tyrfa gref i ymuno yn y gynulleidfa ac roedd y drafodaeth yn un fywiog dros ben. Cafodd y rhaglen ei darlledu ar y Noson ganlynol sef Nos Fercher 2 Gorffennaf am 6.00 o'r gloch.
No comments:
Post a Comment