![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEhUIXYn3VxojoQ-GJfFOZj_FCmrZ0S4Ux70PULtU5hGNP6xDJMcNYkJhpflXEPl5ujSLMVeNS-oyYMV0MJbZw7-bhFg7iyBxeG1oEhvwx-hT67Kx6UCAXMqrpQV-K2Ny4W-VIIB10Nd420/s400/Image2.jpg)
Bu nifer o blant a phobl ifanc o’r ardal yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy eleni, ac fe gafodd lawer ohonynt lwyddiant. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd!
Achlysur arbennig oedd llwyddiant Sara Mai a Steffan Rhys Davies, brawd a chwaer o Rydaman. Enillodd y ddau ohonynt y cystadlaethau unigol, Sara, sy’n 10 oed, ar y ddawns unigol i ferched, a hynny dan 15 oed, a Steffan, sy’n 11 oed, ar y ddawns unigol i fechgyn, a hynny dan 15 hefyd. Yn ogystal a hyn, gyda’i gilydd enillodd y ddau ar y ddawns stepio gymysg dan 12 oed. Nid yw hyn wedi digwydd erioed o’r blaen! Roedd Sara a Steffan hefyd yn aelodau o barti dawns buddugol yr Ysgol Gymraeg dan 12, ac o barti dawns buddugol Adran Penrhyd dan 12.
Llongyfarchiadau gwresog i’r ddau.
Mae’r ardal yn enwog am ei llwyddiant enfawr yn y byd dawnsio a chlocsio, a daeth hwn eleni eto, gyda llwyddiant Adran Penrhyd yn ennill y wobr gyntaf ar y ddawns dan 12 a’r ail wobr ar y gystadleuaeth stepio i grwp dan 25, a’r Ysgol Gymraeg yn ennill y wobr gyntaf ar y ddawns i ysgolion dan 12.
No comments:
Post a Comment