Ym mis Hydref yn hytrach na mis Mai cynhaliwyd Cyngerdd Blynyddol Côr Rhydaman a'r Cylch eleni. Oherwydd afiechyd aelodau'r côr, gwaeledd a marwolaeth o fewn y teuluoedd, aeth trefniadau mis Mai ar chwâl, ond wrth gyd-dynnu, llwyddwyd i fentro ymlaen, a chaed cyngerdd arbennig yn y diwedd. Chwith oedd bod heb gadairyddes y côr, Gillian Howells. Bu'n gadwyn gref i greu undod ymysg yr aelodau, ac i'w tywys i ganu mewn ardaloedd newydd. Byddai'n gweld ymhell, ac yn ysbrydoli ninnau'r aelodau i'w dilvn. Cofiwn ei hawddgarwch.
Fel rhaglen, dewisodd y côr fiwsig poblogaidd; cydganau o waith Handel ym mlwyddyn coffau ei farwolaeth; miwsig Ryan a Hefin Elis; anthem Gymraeg; trefniadau o alawon gwerin; Holy City gan Stephen Adams a Nos Da Mai Jones, amrywiaeth go iawn.
Roedd gan y ddau artist ifanc wreiddiau mewn ardaloedd cyfagos, Andrew Rees o Gaerfyrddin a Gwawr Edwards o Geredigion. Hyfrydwch llwyr oedd profi yr agosrwydd cartrefol a grewyd gan y ddau. Amlwg oedd eu cariad at y Gymraeg, ac eto eu darnau operatig yn llawn awdurdod mewn ieithoedd estron. Mae gan Gwawr lais deniadol, ystwyth a phell-gyrhaeddol, digon i lanw Neuadd Albert yn Llundain a Stadiwm Wembley, heb son am lawer man diddorol arall. Ond dim ond megis dechrau mae ei gyrfa. Byddwn yn gwylio ei dyfodol yn eiddgar.
Mae Andrew yn fwy profiadol, ac eisioes wedi lledu ei adenydd dros rhannau o'r byd. Gyda'i lais pwerus, fe all rhannu llwyfan operatig ag unrhyw gôr. Ond fe brofon ni hefyd dynerwch caneuon serch sydd yn rhan o fyd y tenor. Daeth y ddau â ffresni'r to ieuanc i'r neuadd.
Yn ôl ei arfer, bu'r Parch. E. Lyn Rees yn gyflwynydd gwych, yn cadw'r noson i rhedeg yn esmwyth, a bod yn bont rhwng y llwyfan a'r gynulleidfa. Rhaid hefyd cyfeirio at y cyfeilyddion, tair ohonynt eleni. Menna Griffiths, chwaer Gwawr bu'n cyfeilio iddi hi, ac Olwen Richards a Sally Arthur yn rhannu gweddill y noson. Cyfoeth o gyfeilyddion yn wir.
Pan fod yna alw, mi fydd y côr yn ateb apêl pwyllgorau elusennol. Bydd cyfran o dderbyniadau y gyngerdd yma yn mynd at Ymchwil Cancr. Mae'r afiechyd yma yn cyffwrdd ag aelod o bron pob teulu, ac hefyd a nifer o aelodau'r côr.
Does dim llawer o orffwys o'u blaen, oherwydd byddant yn paratoi Cyngerdd y Nadolig ar unwaith. Dewch i gefnogi, cofiwch.
No comments:
Post a Comment