Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.11.09

Grwp Masnach Deg Rhydaman

Aeth teulu o Rhydaman i Lundain ar ddydd Sadwrn 10 Hydref i gasglu gwobr cenedlaethol ar ran Grwp Masnach Deg y dref.
Mae grwp Masnach Deg Rhydaman wedi ennill yr ymgyrch Gyfryngol orau trwy Brydain gyfan yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2009.
Roedd Phil Broadhurst, aelod o’r grwp yngyd a’i ferched May, Rosa, Cody ac Esta, wedi derbyn gwahoddiad i fynychu cynhadledd y Sefydliad Masnach Deg yn Llundain a chasglu siec o £500 a gafodd ei rhoi gan y “Shared Interest Foundation”. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan y grwp ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol i hyrwyddo Masnach Deg yn yr ardal.
Cafodd Rosa sydd yn ddisgybl blwyddyn 7 yn ysgol Dyffryn Aman ei chyflwyno gyda’r wobr gan George Alagiah sy’n darllen newyddion y BBC. Dywedodd ei thad, Phil Broadhurst, : "Roedd y digwyddiadau yn Rhydaman yn ystod pythefnos Masnach Deg eleni , yn enwedig y banana split yn yr Arcade a’r ras gyfenwid bananas yn lwyddiant ysgubol. Cawsom genfogaeth llawer o bobl ifanc y dref a felly mae’n addas mai person ifanc o Rydaman sy’n casglu’r wobr.”

No comments:

Help / Cymorth