Nos Wener,Tachwedd 19eg, bu tair o aelodau Cangen Merched y Wawr Brynaman yn cymryd rhan yng Nghwis Hwyl Cenedlaethol y mudiad. Cynhaliwyd gornest rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn Yr Hen Stablau , yn ardal Treforys, lle cafwyd gwledd o fwyd ar ôl y cystadlu brwd. A’r buddugwyr? Ie, tîm Merched y Gwter Fawr. Yn y llun , gwelir Mary Lynne Jones, Sarah Hopkin a Mair Thomas.Llongyfarchiadau.
No comments:
Post a Comment