Hoffai Glo Man groesawu aelodau newydd i’r ysgol. Yn gyntaf Mr Martin Evans sef Diprwy Bennaeth newydd yr ysgol yn dilyn ymddeoliad Mr Catherine Williams wedi dros 30 mlynedd o wasanaeth i Ysgol y Waun. Mae Mr Evans yn byw yn Ystradgynlais a roedd yn athro yn Ysgol Gymraeg Pontardawe cyn dechrau yn Ysgol Y Waun.
Mrs Melanie Morgan yma ers mis Medi fel athrawes dros dro yn y dosbarth Meithrin/Derbyn a Mrs Catherine Jones wedi ymuno gyda ni hefyd ers mis Medi fel cynorthwywraig dosbarth yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae’r tri ohonynt wedi ymgartrefu’n rhwydd a hapus ac yn mwynhau gweithio yn Ysgol Gymraeg Gwaun-Cae-Gurwen.
Gwasnaeth Diolchgarwch
Ar Ddydd Gwener, Hydref 22ain fe gynhaliodd yr ysgol ei Gwasanaeth Diolchgarwch blynyddol yn neuadd yr ysgol. Roedd hi’n braf gweld cymaint o bobl o’r gymuned ynghyd â rhieni’r ysgol wedi cyrraedd i ddathlu gyda ni. Fe wnaeth pob dosbarth ddifyrru’r gynulleidfa gydag eitmau i ddweud diolch am y cynhaeaf. Yn ogystal a hynny wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn ymgyrch lwyddiannus i gasglu pecynnau reis a phasta i’w danfon i wledydd amrywiol yn nwyrain Ewrop. Mae’r ysgol yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth ac ymdrechion y plant a’u rhieni.
No comments:
Post a Comment