Llongyfarchiadau mawr i Donald Gwyn Bowen, 3 Heol yr Orsaf Isaf, Garnant (yn wreiddiol o Brynlloi, Glanaman) ar ddathlu ei benblwydd yn 90 oed ar y 3ydd o Dachwedd. Yn ystod y rhyfel roedd Donald yn y Llu Awyr ac ar ddiwedd y rhyfel daeth yn ôl i’r cwm i briodi y diweddar Dilys (Jenkins). Bu Donald yn gweithio yn Teddingtons, Pontarddulais am dros 30 mlynedd nes iddo ymddeol. Ei ddiddordeb dros y blynyddoedd ac i gadw yn iach, oedd cerdded y Mynydd Du, ac hefyd mae’n aelod o’r Lleng Brydeinig. Mae Donald yn dad i Delyth a Gaynor, yn dadcu i Peter, Helen ac Alana, a hen-datcu i Rhodri a Sion. Bu Donald yn dathlu’r achlysur arbennig hwn gyda’i deulu yn ei gartref. Dymunwn bob dymuniad da iddo i’r dyfodol ac iechyd da hefyd.
No comments:
Post a Comment