Twls saer ar gefn beic modur – dyna sut ddechreuodd y cyfan! Ym 1935, penderfynodd Thomas Richard Jones ei fod wedi cael digon o weithio i eraill a phenderfynodd mai gweithio ar ei liwt ei hun oedd yr ateb. Yn benderfynol, aeth ati – efe a’i fag llond twls – i chwilio am waith, a phrin aeth diwrnod heibio na lwyddodd i ddod o hyd i ryw waith neu’i gilydd.
Roedd ei ddycnwch i’w edmygu ac mewn dim o beth roedd e’n cyflogi eraill ac yn mynd i’r afael a chytundebau llawer mwy nag o’r blaen, yn adnewyddu neu’n ymestyn, cyn symud yn ei flaen at ymgymryd â gwaith adeiladu o’r newydd. Mae rhai enghreifftiau o’i brosiectau cynnar yn dal i’w gweld yn yr ardal – nifer o dai lleol, yr Uned Famolaeth yn Ysbyty Dyffryn Aman, ac efe hefyd trodd Plasty Gelli Aur yn Goleg Amaethyddol.
Ei wraig, Eurllys, oedd yn gyfrifol am y gwaith gweinyddol, ac ar y cyd llwyddodd y ddau i sicrhau bod y cwmni yn mynd o nerth i nerth a chyda dyfodiad dau fab, Huw a David, roedd y dyfodol bellach yn fenter deuluol. Aeth Dave i weithio gyda’i dad ym 1961 ac ym 1964 ymunodd Huw, a’r ddau ohonynt, wedi iddo ef hyfforddi yn Beiriannydd Sifil ac ennill profiad gyda chwmni cenedlaethol yn gyntaf. Penderfynwyd troi’r cwmni yn gwmni cyfyngedig ym 1971 a bu’r ddau frawd a’u tad yn cydweithio hyd at 1973 pan benderfynodd Mr Jones, y tad, rhoi’r twls ar y bar!
Erbyn hynny roedd gan TRJ restr eang o glientiaid ac roedd y cwmni’n cyflogi tua hanner cant o staff. Yn ystod y 1980au daeth yr amser i’r drydedd genhedlaeth chwarae’i rhan pan ddaeth meibion Huw, yn gyntaf, yn rhan amlwg o’r cwmni – Dafydd ym 1981 ac Owain ym 1989 – ac yna yn hwyrach yn y 90au ymunodd John, mab Dave, ag hwy hefyd.
Heddi, mae Dave yn weithredol weithgar o hyd, gydag Huw, er ei ymddeoliad o’r gwaith bob dydd, yn dal yn Gadeirydd y Bwrdd, ond bellach, cyfrifoldeb Dafydd, Owain a John yw arwain y cwmni yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn sicr, mae arwyddair y cwmni “Adeiladu ar Sylfaen Gadarn” yn dyst i’r ymdrech a wnaed gan y cenedlaethau a fu, ac yn ddios yn deyrnged i lwyddiant yr hyn a ddel.
No comments:
Post a Comment