Ar ddydd Iau 17 Mawrth 2001 roedd y newyddiadurwr teledu, a’r cyflwynydd Huw Edwards, yn cwrdd â Chyfarwyddwr newydd Academi Hywel Teifi, ac yn agor Hoffi Coffi yn swyddogol.
Mae’r caffi newydd yn fan cyfarfod newydd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ar gampws Prifysgol Abertawe, ac yn lle iddyn nhw gymdeithasu a chwrdd yn ddyddiol.
Er cof annwyl am ei dad, Hywel Teifi, bydd Huw yn dadorchuddio murlun o awdl fuddugol yr Athro Tudur Hallam, o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mae’r fenter hon yn cefnogi amcanion Academi Hywel Teifi - a enwyd ar ôl Yr Athro Hywel Teifi Edwards a dreuliodd ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe - i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, ymchwil amlddisgyblaethol gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.
No comments:
Post a Comment