Efallai i rai o’n darllenwyr gael sioc ar brynhawn Gwener, 18 Mawrth, os gweloch chi bedwar person wedi eu gwisgo mewn coch gwyn a du a chanddynt bobi drwyn coch, yn rhedeg ar hyd y ffordd o’r Ganolfan lawr drwy’r cwm i gyfeiriad Rhydaman. Roedd Scott, Eleri, Ffion a Siân wedi cael eu noddi i redeg Frynaman i Rydaman ar ddiwrnod Trwynau Coch. Roedd y dechrau’n hawdd - rhedeg lawr y dyffryn - ond o..o..o y sioc o sylweddoli, ar ddiwedd y 6 milltir, y byddai rhaid iddyn nhw gerdded bob cam yn ôl hefyd!!!
Diolch byth – dim ond tynnu coes oedd y sawl a ddywedodd hynny wrthyn nhw a chwarae teg i’r pedwar dewr, fe godon nhw gyfanswm o £500 at yr elusen.
No comments:
Post a Comment