Llongyfarchiadau mawr i Miss Catrin Huws, Arweinyddes Côr Merched Lleisiau’r Cwm, Côr y Sgarlets a Chôr Merched CANTATA ar ennill pleidlais y gwylwyr yng nghystadleuaeth Côr Cymru yn Aberystwyth yn ddiweddar. Daeth Côr Merched CANTATA yn agos iawn at ennill y brif wobr yn erbyn y pump côr arall a gyrhaeddodd Rownd Derfynol Cymru, a dymunwn well llwyddiant iddynt y tro nesaf. Mae’r Côr hwn wedi cael gwahoddiadau i ganu mewn cyngherddau nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd. Dymunwn bob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.
No comments:
Post a Comment