Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Adran ym mis Ebrill. Fe ail-ddewiswyd Margaret Davies yn Llywydd, Ryall Rees yn Is-lywydd, Dewi Enoch yn Ysgrifennydd a Mary Rees yn Is iddo gyda Ann Cameron yn Drysorydd. Mi roedd y pwyllgor yn dal i weithredu gyda Mairwen Lloyd yn uno â nhw. Cafwyd adroddiad ariannol iach gan y Trysorydd.
Mae Ryall a Mary Rees yn ôl yr arfer wedi trefnu teithiau’r grŵp dros yr Haf – Gerddi Dyffryn a Chroes Cwrlws fydd y gyrchfan ym Mai. Yna taith ar hyd arfordir Penfro gyda the Victorianaidd fydd hi ym Mehefin; Aberteifi i weld y gôt wlân (cardigan) enfawr ac Aberaeron fydd hi yng Ngorffennaf; yna yn Awst – Y Fenni ac i gloi’r tymor Wells a Street ym Medi. Edrychir ymlaen at y teithiau hynod diddorol hyn eleni eto.
No comments:
Post a Comment