Calvin Davies, Elfan Bell, Arwel Davies
Ers blynyddoedd bellach mae Cylchoedd Cinio Cymraeg Tybïe a Rhydaman wedi dod at ei gilydd i ginio ym mis Ebrill. Eleni tro Tybïe oedd gwahodd Rhydaman i ginio yng Nghlwb Golff Glynhir.
Roedd dros hanner cant yn bresennol. Cafwyd noson arbennig gyda bwyd blasus a’r prif westai, Elfan Bell, cyfreithiwr yn Rhydaman, yn hynod ddiddorol. Aeth â ni yn ôl i gyfnod Hywel Dda a hyd yn oed cyn hynny gan brofi faint oedd Cymru ar y blaen i Loegr mewn tegwch ym myd y gyfraith. Yn Lloegr y brenin fyddai yn penderfynu a oedd rhywun yn euog ai peidio ond yng Nghymru rhaid oedd cael nifer o dystion i brofi euogrwydd person. Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, roedd y dynion a’r marched yn gyfartal yng ngolwg y gyfraith.
Lllywydd y noson oedd Arwel Davies, Cadeirydd Cylch Cinio Tybïe ac fe wnaed y diolchiadau gan Calvin Davies, Cadeirydd Rhydaman.
No comments:
Post a Comment