Ar Ddydd Gwener Ebrill 1af 2011 fe wnaeth ein tim rygbi blwyddyn 4 gymeryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol 7 bob ochr yn Bancyfelin. Fe chwaraeodd y tim yn arbennig o dda, gan golli yn y gem derfynol a gorffen yn ail yn yr holl gystadleuaeth. Bu dros 200 o blant yn cymeryd rhan, a choronwyd chwaraewr o Ysgol Blaenau, Joe Lewis, yn Chwaraewr y Gystadleuaeth gyfan.
Ar Ddydd Gwener Mai 6ed roedd tim rygbi Ysgol Blaenau yn cystadlu mewn gwyl rygbi ym Mharc y Scarlets cyn y gem Llanelli Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd.
No comments:
Post a Comment