Mynychodd dosbarthiadau'r WEA ac fe sylweddolodd ei gyd ddisgyblion (a oedd yn cynnwys Amanwy) fod talent aruthrol ganddo ac fe aethant ati i godi arian trwy gyhoeddi a gwerthu Ilyfr o farddoniaeth eu hunain - 0 Lwch y Lofa. Gwnaed elw o £30 a chyda cefnogaeth ei gyd- weithwyr, bu'r arian yn gymorth iddo fynd i'r coleg.
Yr ydym yn Ngosen yn gwybod fod talentau eraill ganddo. Roedd yn un deche (i ddefnyddio gair Ileol) gyda'i ddwylo a chyn iddo farw fe roddodd Mrs. Dilys Dixon (nith Gomer) y gwaith rhyfeddol a welir yn y Ilun fel rhodd i’r eglwys er côf am Gomer. Fel y gwelwch mae Gweddi'r Arglwydd wedi ei cherfio o bren (fretwork) a'i fframio - gwaith Ilaw Gomer ei hun.
Mae'n ddiddorol dyfalu paham y gwnaeth hwn yn yr iaith fain and does na ddim ateb i hynny. Mewn sgwrs a gefais gyda Mrs. Mair Edwards Bala (merch Gomer) dywedodd mai cyn mynd i’r coleg y gwnaeth y gwaith ac yr oedd hyn felly cyn ei fod yn ugain oed! Cefais wybod ganddi hefyd ei fod wedi dysgu ei hunan y grefft o rwymo Ilyfrau. Mae côf gan rhai o'r blaenoriaid ohono yn chwarae'r organ a chadarnhaodd Mair ei fod wedi dysgu ei hunan i chwarae piano pan yn ifanc hefyd.
Gobeithio y bydd y llun a'r cefndir o ddiddordeb i ddarllenwyr Glo Mân gan ei fod yn ehangu ein gwybodaeth a'n gwerthfawrogiad o athrylith mawr -- y diweddar Parchedig Ddr Gomer M.Roberts.
Trefor Evans, Llandybie
No comments:
Post a Comment