Nos Iau, Mai 26ain, recordiwyd rhifyn o'r rhaglen radio Bwletin yn Nhafarn y Tregib, Brynaman, ac fe'u darlledwyd Nos Wener Mai 27ain ar Radio Cymru, gydag ail-ddarllediad ar y Sadwrn, Mai 28ain. Er mai siomedig oedd y nifer yn y gynulleidfa, cafwyd llawer o chwerthin yng nghwmni'r digrifwyr i gyd. Yn y llun gwelir Arfon Haines Davies, Kevin Davies, Gary Slaymaker (cyflwynydd), Ifan Gruffudd a Phil Evans, ac o'u blaen, Jay Joseph, perchennog y Tregib.
Cafodd y criw groeso brwd gan Jay a'i wraig, Jacqui, sydd wedi gweithio'n galed i roi gweddnewidiad i lolfa'r Tregib yn ddiweddar, a'i droi yn fwyty.Mae'n siwr y bydd yr un croeso yn aros holl drigolion yr ardal os galwant i mewn i'r Tafarn hanesyddol hwn yn y pentref.

No comments:
Post a Comment