Llongyfarchiadau mawr i Ffion Elin Powell a Ross Coughlan ar eu priodas ddiwedd mis Mai yng Nghapel Bethesda, Glanaman. Mae Ffion yn ferch i Richard a Derith Powell, Heol Grenig, Glanaman a Ross yw mab ieuengaf Mr a Mrs Coughlan o waelod Heol Tir-y-Coed, Glanaman. Mynychodd y ddau Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Yr oedd y gwasanaeth o dan ofal y Parchedig Eirian Wyn (cyn Weinidog Bethesda) a’r organydd oedd Christopher Davies. Rhoddwyd y briodasferch i’w phriodi gan ei thad, Richard Powell ac yr oedd dau was priodas gan Ross sef Emyr Lewis ac Emyr Rees. Y morwynion priodas oedd Mared Owen, Ffion Haf Mackey ac hefyd y merched bach sef Cadi Lois Owen a Lola Belle Coughlan Hall. Y gwas bach oedd Dion Celt Owen. Tywyswyr y dydd oedd Toby Coughlan, Steffan Powell, Alun Owen, Gruffydd Sion Rees, Chris Rees, Rhodri Williams, Matt Challenger a Chris Glanville.
Yn ystod y gwasanaeth cafwyd darlleniad pwrpasol iawn gan famgu Ffion sef Mrs Sadie Rees a hefyd cafwyd ddarlleniad hyfryd iawn gan frawd Ross sef, Toby Coughlan. Tra’r oedd y pâr priod yn arwyddo’r Cofrestr cafwyd perfformiadau hyfryd gan Llew Davies (llais) a Gethin Roberts (gitarydd). Cerddorion y dydd oedd ffrindiau y pâr ifanc yn cynnwys Gruffydd Sion Rees, Richard Vaughan, Bethan Frieze ac Abigail Blackman,.
Cafwyd y wledd briodas mewn gwesty yn y Dryslwyn. Dymunwn bob bendith i’r pâr priod a iechyd da i’r dyfodol. Mae’r ddau wedi ymgartrefu yn Ninas Caerdydd.
No comments:
Post a Comment