Cynhaliwyd Cinio Blynyddol y Gangen ym Mwyty’r Mynydd Du ar nos Wener, 10 Mehefin. Cafodd pawb bryd bwyd blasus iawn gyda digon ohonno.
Wedi i bawb lenwi’u boliau daeth yr amser i glywed gair gan y gwr gwadd. O ddweud mai Sulwyn Thomas oedd y gwr gwadd bydd pawb yn sylweddoli mai nid ‘gair’ a gafwyd ond geiriau a’r rheinny’n rai difyr iawn fel y byddem yn ei ddisgwyl gan un sydd wedi hen arfer diddori a diddanu ei wrandawyr gyda’i ddawn eiriol.
Da hefyd oedd gallu croesawu Glenys a ddaeth i ofalu bod ei gwr yn saff ynghanol yr holl fenywod.
‘Roedd Richard wedi dod nôl i ofalu am y coginio am y noson a dymunwn yn dda iddo ef a Maria pan symudan nhw i Hwngary o fewn ychydig wythnosau nawr.
Bydd egwyl nawr dros fisoedd yr haf ond bydd y cyfarfodydd yn ail-ddechrau ym mis Medi – yr ail nos Wener o’r mis, am 7 o’r gloch yn Neuadd yr Henoed – pan fydd croeso mawr i aelodau hen a newydd
No comments:
Post a Comment