Ar yr 25ed o Fehefin aeth Rhodri Culley o Flaenau, Aneurin Miles o Landeilo, a 3 o’i gyfeillion Hefin Williams, Dafydd Williams a Geraint Williams o’r Gogledd i ymrafael a’r tri pegwn ucha yn yr Alban, Lloegr a Chymru. Y nod oedd cerdded i lan i’r 3 pegwn o fewn 24 awr. Yn ogystal a’r cerddwyr, roedd ganddynt yrrwr, Neil McIntosh o’r Alban, a’i rhieni yn byw mewn tyddyn fach nepell o Ben Nevis. Dechreuwyd y daith i’r Alban o Aberystwyth am naw y gloch ar ddydd Gwener y 24ydd o Fehefin, aros y nos yn Fort William, a dechrau’r daith i frig Ben Nevis am 5 y gloch y prynhawn ar y dydd Sadwrn. Dyma’r anser gorau i ddechrau i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r cerdded yn cael ei wneud mewn golau dydd. Ar ol disgyn, teithiwyd drwy’r nos er mwyn dechrau’r daith i Scafell am bedwar y gloch y bore. Wedyn teithio nol i Gymru i gyflawni’r gamp twy ddringo’r Wyddfa. Codwyd dros £400 ar gyfer Elusen Doug Davies ar gyfer Cancr y Prostad gan Rhodri. Ni wnaeth ddioddef unrhyw anaf ar y daith, ond roedd yn cerdded fel John Wayne am rhai diwrnodau ar ol cyrraedd adre!.
- Llun 1 - Aethpwyd a teclun GPS ar y daith a mae’r llwybrau a ddilynwyd yn ymddangos ar luniau’r 3 pegwn.
- Llun 2 – golygfa Ben Nevis o dyddyn y McIntoshiaid.
No comments:
Post a Comment