Llongyfarchiadau i Glesni Euros, Stryd y Parc, a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol 19 – 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst. Mae Glesni wedi cael cryn lwyddiant yn ein Prifwyl dros y blynyddoedd a gan mai dim ond 19 oed yw hi, mae’n siwr y daw llwyddiant pellach iddi dros y blynyddoedd nesaf. Pob lwc iddi hefyd wrth baratoi at ddechrau ei hail flwyddyn yn astudio Almaeneg yng Ngholeg Keble, Rhydychen.
No comments:
Post a Comment