Yr oedd nos Sadwrn, Rhagfyr 17eg, 2011, yn noson i’w chofio yn y Cwm am fod y Côr yn dathlu eu Pymtheg Mlwyddiant trwy gynnal eu Cyngerdd Flynyddol yng Nghapel Bethel Newydd, y Garnant, dan arweinyddiaeth Catrin Hughes gyda Christopher Davies yn cyfeilio ac Aled Richards, (cyn-ddrymiwr Catatonia) yn cynorthwyo ar yr offerynau taro. Cawsant gefnogaeth ganmoladwy gan Gôr Meibion Dyffryn Aman o dan arweinyddiaeth Ian Llywelyn gyda Berian Lewis yn cyfeilio. Bu Côr Merched Cantata, gyda Catrin Hughes yn arwain a Christopher Davies yn cyfeilio hefyd yn cynorthwyo, a Chôr Iau Ysgol y Strade gyda Christopher Davies yn arwain a Catrin Hughes yn cyfeilio. Wedyn cawsom Ensemble Pres Gwaun Cae Gurwen a Nest Jenkins y Delynores ifanc, deuddeng mlwydd oed a ddaeth atom o Ledrod, Aberystwyth. Cyflwynydd y noson oedd Heddyr Gregory, ein Llywydd, sy’n gweithio yn y Cyfryngau ac yn Llywyddu inni ymhob Cyngerdd. ‘Roedd y rhaglen o’r safon flaenaf a’r gymeradwyaeth yn dangos bod pawb wrth eu bodd. Cyflwynwyd elw’r noson i gynrychiolwyr Alzheimers, achos teg iawn, ac fe gafwyd un o Drefnyddion y Cwmni i ddweud gair ynghanol y Gyngerdd. Mae’r elw ar hyn o bryd bron yn £1,800, a’r arian yn dal i ddod mewn.
Ar ôl y Gyngerdd, paratowyd gwledd gan Jackie, ffrind agos i’r Côr Merched yng Nghlwb yr Aman ac yr oedd y cyri yn fendigedig, a phawb wedi mwynhau maes draw. Yr ydym yn ddyledus i Swyddogion Bethel Newydd am gael y caniatad i gynnal y Gyngerdd yn eu Capel, ac hefyd i’r holl Artistiaid a’n cynorthwyodd. Hefyd carwn ddiolch i Ronald, Dafydd a Keith am fod yn gyfrifol am dderbyn yr holl docynnau a’r arian yng nghyntedd y Capel ac hefyd i Jackie am wneud yr ymborth, ac i Elinor a’r Swyddogion yng Nghlwb yr Aman am agor y drysau inni unwaith yn rhagor. Dyma beth oedd noson fythgofiadwy yn wir a diolchwn am bob cefnogaeth a gawsom i gynnal ein cyngerdd flynyddol unwaith yn rhagor. Mae’r Côr yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y gefnogaeth a gawsom
No comments:
Post a Comment