Yn ystod yr wythnosau olaf mae Eglwysi Annibynnol Moreia, Tycroes, Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman wedi bod yn brysur nid yn unig yn llenwi bocsys sgidiau ‘Operation Christmas Child’ ond hefyd yn cefnogi Mr. X., ymgyrch i rhoi anrhegion i blant yn ein rhan ni o’r byd na fydd yn derbyn anrhegion yn ystod cyfnod y Nadolig. Ar Nos Iau, Rhagfyr 8fed derbyniodd Joanna Thomas, o wasanaethau Dinefwr a’r cylch, rhoddion yr eglwysi a nodir uchod tuag at ymgyrch Mr. X.
No comments:
Post a Comment