Mae sylw mawr wedi bod ym myd y ffilmiau yn ddiweddar at y ffilm fawr The Iron Lady gyda Meryl Streep yn serennu! Ond o ddyffryn y glo y daw yr actors sy’n portreadu’r Thatcher ifanc a hynny gan Alex Roach o Rydaman. Yn gynddisgybl o Ysgol Dyffryn Aman, cafodd Alex sylw cynnar ar Bobol y Cwm gan ennill gwobr am yr actores ifanc ddrwg orau yn Adloniant pobl ifanc. Teithiodd gyda Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru cyn dechrau yn RADA, lle graddiodd yn 2010. Ers hynny, mae’i gyrfa fel actores wedi mynd o nerth i nerth.
Mae’n braf cael llawenhau yn llwyddiant merch hyfryd a phob lwc i ti Alex!
No comments:
Post a Comment