Ar nos Wener, 16 Rhagfyr yn Neuadd Goffa Llandybie cynhaliodd Côr Meibion Llandybie eu Cyngerdd Blynyddol gyda Chôr Merched Tybie o dan arweiniad Mrs Desna Pemberton. Fe gyflwynwyd nifer o garolau newydd a thraddodiadol. O bryd i’w gilydd fe ddaeth cyfle i’r gynulleidfa i ymuno gyda’r corau o dan arweiniad Mr Alun Bowen, Cyfarwyddwr Cerddorol Côr Meibion Llandybie. Llwyddodd y gynulleidfa a’r corau i ganu ‘Deuddeg Diwrnod y Nadolig’ gydag brwdfrydedd a theimlad!Roedd yn noswaith ysgafn a llwyr mwynhad.
Cyflwynwyd nifer o eitemau unigol gyda Rhys Jones a Frances Morgan yn canu a’r meistri Emyr Rees, Vivian Owen a David Murfin yn canu caneuon plygeiniol. Bu hefyd nifer o ddarlleniadau pwrpasol a doniol gan Mr Tom Jones, Llywydd y Côr Meibion, Mrs Judith Nicholas, Mrs Ann Rees a Mrs Debbie Elias.
Yn ystod yr egwyl bu aelodau o’r Côr Meibion, gyda hetiau Siôn Corn ar eu pennau yn gweini mins peis a diod Nadoligaidd.
No comments:
Post a Comment