Ar Ddydd Calan, sef y Sul cyntaf a’r flwyddyn da oedd gweld cymaint o aelodau eglwysi a chapeli Llandybie wedi dod ynghyd ar gychwyn y flwyddyn newydd i gyd-addoli yng nghapel Gosen.
Dechreuwyd yr arfer o gyd-addoli ar y Sul cyntaf o’r flwyddyn ym mlwyddyn y Mileniwm ac mae’r gwasanaeth yn cylchdroi rhwng Gosen, Sion ac Eglwys Santes Tybie.
Rhoddodd y Parchedig Mrs Anne Howells, Ficer Llandybie araith bwrpasol a gafaelgar. Yn y gwasanaeth ddwyieithog cymerwyd at y rhannau arweiniol gan wahanol aelodau o’r eglwysi.
Gwnaethpwyd casgliad o £140 tuag at Gymorth Cristnogol.
No comments:
Post a Comment