Nos Wener 20 Chwefor cynhaliwyd Cwis Pwerdy Iaith Aman Isaf yng Nghlwb Rygbi Rhydaman. Daeth criw da ynghyd gan gynnwys dau dîm o ddysgwyr. Edwyn Williams oedd y cwisfeistr. Wedi cystadlu brwd gan gynnwys ateb cwestiynau ar newyddion, “antiques roadshow” a cherddoriaeth y tîm buddugol, allan o 10, oedd Gruffydd Jones, Amy Jones, Dewi Evans a Rhiannon Hammond. Cawsant docynnau ar gyfer Twrw Tywi yn wobr. Diolch i Sarah Jones, cydlynydd y Pwerdy Iaith am drefnu noson hwylus llawn hwyl.
No comments:
Post a Comment