Gwen, Alex, Sian, Gerallt, Carwyn a Mallt
Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig y plant ar 18 Rhagfyr ac er bod y rhif yn fychan, roedd y cynnwys tu hwnt o fendithiol. Bu tri o ieuenctid yr eglwys yn cynorthwyo’r plant. Casglwyd £200 i’w anfon i elusen ‘Shelter Cymru’ ac yna bu cyfle i fwynhau sgwrs gyda paned a mins peis.
Yna, yn absenoldeb y Plygain llynedd, oherwydd y tywydd garw, braf oedd medru cyd-addoli ar fore’r Nadolig eleni am 7 y bore, yn enwedig yng nghwmni nifer o’r ‘ieuenctid’ oedd adref - Mallt or Unol Daleithiau, Sian o Lundain ac yna Gerallt a Carwyn o’r Betws. Cymerwyd rhan hefyd gan Loreen, Delyth a Jean a chafwyd neges pwrpasol gan y Parchg Morgan Llewellyn Jones. Roedd yn hyfryd hefyd i groesawu Gwen, merch fach deunaw mis yno, i wrando ar ei mam Sian yn canu unawd mor hyfryd.
No comments:
Post a Comment