Bore
Dydd Sul 26 Chwefror cawsom gwrdd Teuluol ar y thema - Y Creu. Rydym ni yn yr
Ysgol Sul newydd ddechrau dilyn cyfes newydd o’r enw Stori Duw. Mae’r gyfres yn
un newydd sbon o werslyfrau sydd yn rhoi hanes taith fawr stori Duw. Bydd y
gyfres yn galluogi ni y plant gael gwell dealltwriaeth o stori fawr Duw ond yn
bwysicach down i adnabod yr Awdur, sef Duw yn well. Darn cyntaf y stori yw Y
Creu a dyna thema ein Gwasanaeth a beth mae hyn yn ei ddweud am Dduw, amdanom
ni ac am ein Byd.
Wedi'r
oedfa hyfryd oedd gweld cymaint yn cymdeithasu yn y neuadd drwy rannu cwpanaid
o de.
Nos
Fercher 29 Chwefror cafodd aelodau a ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd gyfle i
ddathlu Gwyl Ddewi yn y Neuadd. I
ddechrau cawsom glonc tra'n bwyta cawl wedi ei baratoi ar ein cyfer. Y Gwr
Gwadd oedd y Prifardd Robat Powell, Abertawe. Hyfryd oedd rhannu yn y dathliadau a gweld y neuadd wedi
haddurno'n hardd at yr achlysur. Diolch i bawb am eu paratoadau i wneud y noson
unwaith eto'n lwyddiant arbennig.
No comments:
Post a Comment