Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi Cylch
Cinio Cymraeg Rhydaman yng Ngwesty’r Hydd Gwyn, Llandeilo, Nos Iau, Mawrth 1af
dan lywyddiaeth Arnallt James, Y Betws. Croesawodd y llywydd yr aelodau, y
gwragedd a’r ffrindiau oedd wedi dod ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn.
Croesawodd hefyd y prif westai, yr Athro a’r Prifardd Tudur Hallam,
Foelgastell.
Yn ei
anerchiad cyfeiriodd Tudur at ei gerdd
‘Ennill Tir’, y gerdd a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a’r
Cyffiniau yn 2010, lle y mae’r wylan yn ceisio cysuro yr hen ŵr o Aberarth fod
yna o hyd ddyfodol i’r iaith Gymraeg. Cyfeirio y mae at fywyd a gwaith, ei
gyn-bennaeth, yr Athro Hywel Teifi Edwards, a’i gonsyrn dros yr iaith. Erbyn
hyn y mae Academi Hywel Teifi wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe a Tudur yw ei phennaeth.
Cyflwynwyd y
diolchiadau gan yr is-lywydd, Trefor Evans, Llandybïe.
Ar Nos Iau, Mai 3ydd yn y Ganolfan Aman, Rhydaman am
7.30 o’r gloch y prif westai fydd Geraint Roberts, Cwmffrwd, cyn-brifathro
Ysgol Gyfun Gymraeg Y Strade ac un o’r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am
ad-drefnu addysg uwchradd yn y cylchoedd hyn. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch
â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas ar (01269) 593679 neu ar e-bost elfryn.thomas@btinternet.com.
No comments:
Post a Comment