Daw mis Mai cyn bo hir eleni eto a bydd hi’n
amser i bawb ohonom feddwl sut y gallwn gefnogi Cymorth Cristnogol. Mae’r pwyllgor lleol yn y Cwm yn llawn
syniadau am godi arian ac yn gofyn yn daer i drigolion Cwmaman eu helpu unwaith
yn rhagor. Bydd y dyddiadau pwysig yn rhifyn mis Mai o Glo Mân.. Dymuna’r
pwyllgor ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn, ac maent yn siwr y bydd pobl Cwmaman yn gwneud eu
gorau glas unwaith yn rhagor i helpu’r bobl hynny sydd yn llai ffodus na ni.
No comments:
Post a Comment