Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Dewi lwyddiannus
iawn yn yr Ysgol ar Fawrth y Cyntaf gyda’r disgyblion yn cymeryd rhan trwy ganu
a llefaru yn unigol ac mewn corau a bu llu ohonynt hefyd yn cystadlu ar y gwaith
cartref. Yr oedd y plant wedi cael eu
paratoi yn drwyadl ac aeth sawl un ohonynt ymlaen fel unigolion ac aelodau o’r Côr i gystadlu yn Eisteddfod Gylch yr
Urdd yn Rhydaman. Cychwynwyd yr Eisteddfod trwy ganu cân Ysgol y Bedol gyda
Caryl John yn cyfeilio ar y piano. Ysgrifenwyd y geiriau gan Mari Jones, Athrawes Blwyddyn 6 yr Ysgol a
dyma hi:-
Croeso sydd yma i bawb trwy’r fro
Ysgol lon cwm y gloDysgu a chwarae dan yr un to
Croeso pwy bynnag y bo.
Dathlwn, dathlwn yr Aman ynghyd
Canolfan gynnes, gynnes a chlyd,Ysgol y Bedol a’i swyn a’i hud
Porth addysg newydd fyd.
Croeso, croeso yw ein cân
Law yn llaw cerddwn ymlaenTeulu hapus yn fawr a mân
Â’n hysbryd nawr ar dân!
Yr oedd pedwar llys gan yr Ysgol yn
cystadlu sef Aman, Berach, Grenig a Pedol a’r enillwyr eleni oedd Llys
Aman. Llongyfarchwyd y llysoedd i gyd ar
y terfyn gan Sian Priestland a fu’n gyfrifol am gadw’r pwyntiau holl bwysig i’r
llysoedd yn y gwahanol gystadleuthau.
No comments:
Post a Comment