Eiry Thomas, Buddug Williams (Llywydd), Richard Powell, Rhonwen Thomas a Sarah Hopkin.
Yng nghyfarfod mis Ebrill,y siaradwr gwâdd oedd Richard
Powell o Lanaman.Rhoddodd amlinelliad i ni o’i waith gyda’r elusen Achub y
Plant, sydd yn gweithio mewn dros 120 o
wledydd dros y byd. Mae’r gwaith yn amrywio’n fawr o un gwlad i’r llall, ond
mae amddiffyn hawliau sylfaenol plant yn rhan flaenllaw o’r gwaith.Mae Richard
ei hun yn gwneud llawer o waith
gweinyddol ond mae hefyd wedi cael y cyfle i deithio i lawer o wledydd ac wedi gweithredu’n uniongyrchol mewn ardaloedd
tlawd iawn, yn arbennig felly yn Ne’r Affrig.
Cafodd yr aelodau gyfle i holi Richard, ac yn dilyn, derbyniwyd
cyfraniadau tuag at waith yr elusen. Cyflwynwyd cyfanswm o £183 ,- swm teilwng
iawn. Diolch i bawb.
No comments:
Post a Comment