Nos Wener, Mai 11eg, cynhaliwyd ein cinio blynyddol yng Nghanolfan y Mynydd Du. Ymunodd aelodau cangen Gwaun Gors â ni, a’r wraig wâdd oedd Mererid
Jones,Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr. Roedd ei thad ,yParch.D.J.Thomas , yn frodor o
Frynaman, a chyn dod i’r Ganolfan, manteisiodd Mererid ar y cyfle i ymweld â’i
hewythr, Mr.Austin Thomas , Bryn y Gân , Heol y Bryn.
Yn dilyn pryd o fwyd blasus , cafwyd anerchiad gan Mererid.
Soniodd am rai merched sydd wedi bod yn ddylanwadol ym mywyd Cymru a’i
chysylltiadau personol ,teuluol â hwy, megis Jemima Nicholas, Cranogwen a Marged
Lloyd Jones - anerchiad difyr a diddorol
tu hwnt. Diolchwyd iddi am ei
phresenoldeb a’i hanerchiad gan Buddug Williams, Llywydd y gangen, ac
ategwyd hyn gan Rita Morgan, Ysgrifenyddes cangen Gwaun Gors a gyflwynodd fasged
o flodau i Mererid.
Llun: Blaen: Rita Morgan, Mererid Jones, Buddug
Williams. Cefn: Mary Jones, Sarah
Hopkin, Rhonwen Thomas
No comments:
Post a Comment