Casglwyd eleni
eto bentwr o flancedi i’r trigolion hynny sydd â’u hangen yn Rwmania gan
chwiorydd y Cwm a fu’n brysur iawn yn gwau.
Mae’n diolch yn enfawr iddynt am eu hymdrech i wneud y bobl yma’n gynnes
dros y gaeafau oer ofnadwy. Yn y llun
gwelir Mrs.Muriel Powell, y Garnant a fu mor garedig ac agor ei drws unwaith yn
rhagor i gasglu’r blancedi a’u gwneud yn barod i’w ddanfon i’r anghenus mewn
gwlad anghysbell. Dangoswyd ymrwymiad
llwyr wrth i’r chwiorydd yma yn y Cwm fwrw ati i helpu’r tlodion yn ein
byd. Mae’n diolch yn enfawr iddynt am eu
gwasanaeth clodwiw.
Mae’n hyfryd gweld Mrs.Powell adref ar ôl ei llawdriniaeth yn
Ysbyty Glangwili yn ddiweddar ac mae ei hysbryd mor uchel ag y bu erioed.
Pob hwyl Mrs Powell a dymunwn yn dda i chi a Dr.Powell yn y
dyfodol. Rwy’n siwr fod Dr Powell yn
falch o’i chael hi adref.
No comments:
Post a Comment